Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol
  
 
  

 

 


Cofnodion Cyfarfod:

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Grŵp Trawsbleidiol ar Adeiladu

Dyddiad y Cyfarfod:

06.11.23

Lleoliad:

MS Teams

Yn bresennol: 

Enw:

Teitl:

Joyce Watson AS (JW) - Cadeirydd

 

Nitesh Patel (NP) – Staff Cymorth

 

 

David Kirby, CIOB (DK)

 

 

Hefin David, Aelod o’r Senedd (HD)

 

Malcom Davies, Llywodraeth Cymru (MD)

 

 

Gareth Davies, Knox and Wells (GD)

 

Gareth Evans, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (GE)

 

Gareth Williams, CITB (GW)

 

Gordon Brown, Trafnidiaeth Cymru (GB)

 

Christopher Hare, Llywodraeth Cymru (CH)

 

David Humphrey, Morgan Sindall (DH)

 

Ifan Glyn, FMB (IG)

 

Julia Stevens, CITB (JS)

 

Keith Jones, ICE (KJ)

 

Ken Pearson, Bluestone Builders (KP)

 

Mark Hennessey, ASD Build (MH)

 

Matt Kennedy, CITB (MK)

 

Owain Jones, TRJ (OJ)

 

Rob Davies, CITB (RD)

 

Alexander, Staff Cymorth Aelod (AS)

 

Owen Thomas, Staff Cymorth Aelod (OT)

 

Zak Clark, CITB (ZC)

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymddiheuriadau: 

Enw:

Teitl:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o’r Cyfarfod: 

Dechreuodd y cyfarfod am 12:54. Nid oedd JW yn gallu croesawu pawb i'r cyfarfod gan fod cyfarfod arall wedi gor-redeg, felly dechreuodd MK y cyfarfod gyda HD yn cyflwyno ei adroddiad ar Bontio i Gyflogaeth.

Amlinellodd HD ei fod wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allanol i ddatblygu'r adroddiad ar drefniadau pontio o'r ysgol i gyflogaeth, o AB i gyflogaeth ac o AU i gyflogaeth, ac unrhyw faterion sy’n codi yn sgil symudiadau o’r fath.

Dywedodd HD fod yr heriau o gael tîm bach yn golygu y byddai’n “amhosib siarad â phawb” ond eu bod yn dal i deimlo bod ganddynt drawstoriad da o’r diwydiant. Ond dywedodd y byddent yn y dyfodol yn siarad â darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dysgu cymunedol hefyd.

Amlinellodd HD fod amcanion yr adroddiad yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, ac felly roedd y cwmpas yn gyfyngedig o ran nifer y bobl y gallent siarad â nhw. Yr amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru oedd y dylid adolygu sut y mae darparwyr addysg yn darparu profiadau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith ac y dylid gwneud argymhellion, a’r syniad oedd edrych ar sut y mae rhaglenni pontio i gyflogaeth mewn diwydiant yn gweithio.

Amlinellodd HD mai’r cyfarfod hwn oedd cyfle’r grŵp trawsbleidiol i ddweud beth oedd ar goll o’r argymhellion neu ble y gallai’r argymhellion fynd ymhellach.

Yna cyflwynodd HD argymhellion yr adroddiad (sydd ar gael i’w gweld yn Gymraeg neu yn Saesneg yma)

Argymhelliad 1:

Tynnodd HD sylw at y ffaith, gyda phrofiad gwaith Gyrfa Cymru, nad oedd disgyblion yn cael profiad dilys ac ystyrlon o fyd gwaith tan “efallai addysg ôl-16”, a bod diffyg system effeithiol a diffyg trefniadau ymgysylltu rhwng cyflogwyr ac ysgolion a cholegau.

Amlinellodd HD mai’r cam cyntaf wrth helpu i wneud hyn fyddai i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyflogwyr AB a rhanddeiliaid perthnasol yn gallu ymgysylltu â dysgwyr sy’n iau nag 16 oed yn ogystal â’r rheini sydd dros yr oedran hwnnw – gan ganiatáu i ddewisiadau gael eu gwneud yn gynnar yn eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd.

Argymhelliad 2:

Dywedodd HD nad oedd problem fawr o ran mynediad i addysg gynradd, ond yn hytrach mae rhwystrau’n codi pan fo disgyblion tuag 11 oed ac felly nid yw disgyblion yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt pan ddaw’n amser iddynt wneud dewisiadau yn 16 oed.

Argymhelliad 3:

Dywedodd HD y dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) weithio gyda darparwyr addysg alwedigaethol i greu sector llai darniog a sicrhau gwelliant wrth gydgysylltu a darparu eglurder.

Argymhelliad 4:

Dywedodd HD y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cynigir profiad gwaith ystyrlon, a soniodd am yr angen i leoliadau gwaith fod ar gael i bob dysgwr 14 i 18 oed. Dywedodd HD y dylai’r cynnig hwn gynnwys profiad gwaith wedi’i deilwra ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 nad ydynt yn ymgysylltu’n llawn ag addysg ac sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Argymhelliad 5:

Amlinellodd HD y dylai lleoliadau profiad gwaith gael eu paru mor agos â phosibl â diddordebau a sgiliau dysgwyr, a bod hyn yn cael ei gysylltu â llwybr y dysgwr at gymwysterau a chyflogaeth bosibl yn y dyfodol, a’i fod hefyd yn ystyried y farchnad lafur leol, gan ddefnyddio gwybodaeth leol ac arbenigedd partneriaethau sgiliau rhanbarthol.

Argymhelliad 6:

Dywedodd HD fod angen i ysgolion a cholegau sicrhau bod y cynigion profiad gwaith y soniwyd amdanynt ar gael i'r disgyblion a’r myfyrwyr, a bod y profiadau ar gael yn gynharach.

Amlinellodd HD y gallai cyrff yn y sector cyhoeddus fel Trafnidiaeth Cymru arwain ar hyn drwy’r radd rheilffyrdd mewn peirianneg a gynigir ym Mhrifysgol De Cymru, ac unwaith y bydd cyflogwyr yn dechrau gweld gwerth y graddau hyn, efallai y byddant yn awyddus i ddarparu cyllid, cymorth a chyngor ar y math o brentisiaethau y mae angen eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd HD hefyd na ddylai cyflogwyr ysgwyddo'r baich cyllido.

Argymhelliad 7:

Dywedodd HD fod angen sgwrs am y cyllid ar gyfer gradd-brentisiaethau a'r anghyfartaledd rhwng y rheolau cyllido ar gyfer graddau arferol a gradd-brentisiaethau.

Argymhelliad 8:

Tynnodd HD sylw at yr angen am drefniadau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wrth iddynt ymgeisio am swyddi, yn enwedig pobl ifanc ag awtistiaeth sydd am fynd i gyflogaeth.

Argymhelliad 9:

Amlinellodd HD yr elfen o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg sy'n cael ei hehangu o fewn AB.

Argymhelliad 10:

Dywedodd HD y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd o fewn elfen y cwricwlwm ‘Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith’ yn cael eu cyflwyno cymaint â phosibl i gynnwys dysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith y dysgwyr mwyaf galluog a dawnus o’r cyfleoedd galwedigaethol a allai fod ar gael.

Tynnodd HD sylw at y ffaith y gallent wneud darn arall o waith ar brofiadau gwaith cymunedol ac ymarferwyr hŷn.

Amlinellodd MD y ffaith bod canfyddiad nad oedd angen fawr ddim sgiliau technolegol, os o gwbl, ar gyfer y diwydiant adeiladu a chynigiodd HD y dylid cael cyfarfod ar wahân gyda MD i drafod hyn.

Tynnodd MD sylw at y ffaith mai nhw yw'r grŵp cyntaf i ymgysylltu wrth gystadlu â sectorau eraill i wneud galwadau ar athrawon a chodi ymwybyddiaeth rhieni a gwarcheidwaid. Roedd HD yn cytuno â hynny ac ychwanegodd fod ysgolion a cholegau yn rhwystredig oherwydd bod rhieni’n gweld addysg alwedigaethol fel rhywbeth eilradd i’r llwybr academaidd.

Dywedodd MD fod pren o Gymru yn tyfu'n gyflym ond nad yw'n strwythurol gadarn, ac ychwanegodd KP y gellir tyfu pren meddal o Seland Newydd yn y DU ac y gall bara hyd at hanner cant i chwe deg mlynedd.

Tynnodd KP sylw at y ffaith pe bai prentisiaeth yn cyfrif fel pedwar TGAU y byddai'n rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc gael mynediad i brentisiaethau ar y lefel gywir.

Dywedodd KP y dylid cael cyfnod bach ar ddiwedd ysgolion iau i ystyried dyfodol yr unigolyn hwnnw wrth symud ymlaen o’r ysgol a’r hyn y byddent am symud iddo drwy gael cyflogwyr i gymryd rhan yn fwy rhagweithiol bryd hynny – ond dywedodd nad oeddent yn gwybod a fyddai hynny'n bosibl.

Amlinellodd HD mai'r rheswm dros ei bresenoldeb oedd i ofyn i'r grŵp trawsbleidiol sut y dylid datblygu hyn, ac i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad ymhlith y sawl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Diolchodd JW i'r sawl a oedd yn bresennol, ac ymddiheurodd am fod yn hwyr.

Tynnodd JW sylw at y ffaith nad yw'r diwydiant adeiladu yn ymgysylltu’n ddigon da gyda menywod a lleiafrifoedd ethnig.

Aeth JW ymlaen i ddweud pe byddai pobl yn deall y gallent ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd, y byddai'n gyrru pobl i mewn i'r sector.

Amlinellodd JW na all rhai cwmnïau bach fforddio ysgwyddo’r gost lawn a’r cyfrifoldeb o hyfforddi prentis.

Cytunodd HD â JW a dywedodd mai un broblem gyda'r rhaglen STEM yw bod y maes yn cael ei ddominyddu i raddau helaeth gan ddynion. Roedd HD yn gobeithio y bydd y cyfleoedd gwaith drwy Trafnidiaeth Cymru yn newid hynny.

Amlinellodd HD y gellid defnyddio gradd-brentisiaethau wedi’u dylunio’n arbennig i sicrhau diwydiant mwy amrywiol o ran rhywedd ac ethnigrwydd.

Cyfeiriodd HD at ei adroddiad, a dyfynnodd gyfarwyddwr CBI Ian Price, “Mae prifysgolion yn dylunio cwrs gradd-brentisiaeth ac yna ffyrdd o recriwtio, a’r hyn a ddylai fod yn digwydd mewn gwirionedd yw bod cyflogwyr yn siarad â’r prifysgolion, yn siarad â’r colegau, fel yn achos model Trafnidiaeth Cymru, a chreu gradd-brentisiaeth sydd wedi’i chyd-gynllunio a’i hariannu ar y cyd.” Ychwanegodd fod angen i gyflogwyr weld gwerth mewn ymgysylltu â gradd -brentisiaethau wedi eu dylunio’n arbennig - ond gall maes adeiladu fod yn wahanol.

Dyfynnodd HD Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, “os oes gennych chi’r seilwaith a’r rhagdybiaeth o gyd-ddylunio, yna mae’n amlwg bod hynny’n ffafrio sefydliadau mwy o faint sydd â’r arbenigedd hyfforddi hwnnw o fewn y sefydliad, a bydd gan lawer o’r cyflogwyr mwy eu cynrychiolydd eu hunain drwy'r RSP, yn dylanwadu ar eu RSP eu hunain. Byddai’n anodd i ni (cwmnïau bach) ymgysylltu â’r miloedd o fusnesau a’u diddordebau a’u hanghenion yn yr RSP. Mae’r cysyniad o gyd-ddylunio yn un da, ond mae’n anodd iawn gwneud hyn yn hygyrch pan fyddwch chi’n gwybod mor anodd yw rhoi sylw i anghenion cyfanredol busnesau llawer llai.”

Cysylltodd HD hyn â sylw KP, a soniodd fod yr adroddiad wedi canfod bod ysgolion yn dda yn ymgysylltu â busnesau bach gan eu bod yn fwy tebygol o fod â chysylltiadau organig drwy’r gymuned leol.

Cytunodd HD â sylw JW, ac ychwanegodd fod her wrth wneud hyn, a bod angen i’r sector ddeall y cymhlethdod ac ymateb yn unol â hynny. Ychwanegodd HD fod her i wleidyddion o ran sut i gael y Llywodraeth i weithredu.

Amlinellodd GE lwyddiannau CITB yn y maes hwn, gan grybwyll bod CITB yn 2018 wedi gweithio gyda’r Ganolfan Arloesi yn Abertawe i lunio prosiect a oedd yn cyd-fynd â phob un o’r pedwar sector addysg (cynradd, uwchradd, uwch a phellach) dan arweiniad contractwr rhanbarthol. Amlinellodd y prosiect hwn rai o'r rolau a grybwyllwyd yn gynharach megis digideiddio a thechnolegau sy’n datblygu, a sut mae sgiliau lleol yn integreiddio â'r rhain.

Postiodd GE y ddolen i hyn o fewn sgwrs y cyfarfod MS Teams, ac mae’r ddolen i’w gweld yma.

Tynnodd GE sylw at y defnydd o glybiau Minecraft mewn ysgolion lle mae CITB wedi cynnal cystadlaethau lle gallai pobl ifanc gystadlu i adeiladu ysgol newydd, stadiwm, neu fathau eraill o adeiladau.

Amlinellodd GE y gellir defnyddio'r adnoddau hyn fel arfer gorau, ac y gellid eu defnyddio i ail-lansio rhaglenni gyda chymorth CITB a chyllidwyr eraill.

Diolchodd JW i GE am y sylwadau, ac ychwanegodd fod meddyliau plant yn wahanol i feddyliau oedolion, ac y gellir agor meddwl y bobl ifanc o ran sut i wneud rhywbeth yn hytrach na thrafod y theori yn unig.

Amlinellodd MD brosiect a arweinir gan Brifysgol De Cymru sy’n ystyried y cysyniad o ‘gartref iach’ sy’n edrych y tu hwnt i iechyd corfforol person gan edrych ar ei les hefyd.

Amlygodd HD mai’r rheswm dros yr adroddiad oedd creu un dull hollgwmpasog fel bod pob un o’r pedwar sector addysg yn agor eu drysau i’r syniadau hyn.

Gofynnodd MK i HD pa fewnwelediad ychwanegol y mae wedi'i gael yn yr ymchwil o ran sut i fynd i'r afael â nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Amlinellodd HD fod Engage to Change yn gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a sut y byddai hyfforddiant ar gyfer swyddi yn cynorthwyo'r bobl hynny. Soniodd HD hefyd mai’r broblem gyda gwneud hyn ym mhob man fel mater o drefn yw’r gost.

Dywedodd HD fod cynnig hyfforddiant ar gyfer swyddi i bawb yn eithriadol o anodd, ond byddai cynnig hyn mewn modd sy’n targedu plant sydd ag ADY yn gyfle da, a dywedodd fod y model yno.

Amlygodd MK y gallai rhai materion fod yn fwy dymunol nag eraill, a gofynnodd pa gymorth y gallai'r grŵp trawsbleidiol ei roi i gael dylanwad ar y diwydiant adeiladu.

Amlinellodd HD y byddai wedi hoffi gweld James Evans AS yn y cyfarfod hwn wrth iddo ofyn cwestiynau am radd-brentisiaethau yn y Senedd yr wythnos cyn y cyfarfod, ynghyd â Luke Evans AS.

Ailadroddodd HD yr hoffai gael cyfarfod gyda MD a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol cael cyfarfod gyda JS am gynnydd y radd-brentisiaeth mewn adeiladu, sut y bydd yn gweithio a sut mae’n gweithio.

Dywedodd HD hefyd yr hoffai drafod darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith a'r hyn y maen nhw’n ei wneud i wella'r profiad y tu hwnt i amcanion ei adroddiad. Dywedodd HD ei fod yn ystyried awgrymu i Lywodraeth Cymru y dylai ef wneud hynny fel ychwanegiad at yr adroddiad gan ei fod wedi cael adborth nad ystyriwyd darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, ond ar y pryd, roeddent y tu allan i gylch gorchwyl yr adroddiad.

Amlygodd HD sut yr hoffai hefyd edrych ar ddysgu cymunedol – gan gysylltu hyn yn ôl â chwestiwn cyntaf MK, ac ychwanegodd fod nifer o lwybrau eraill yr hoffai eu cymryd i’r perwyl hwn.

Dywedodd HD yr hoffai gael datganiad gan y Gweinidog cyn haf 2024 i weld a yw’r syniadau hyn wedi’u datblygu a gweld beth sydd wedi’i wneud.

Awgrymodd JW pan fydd gan HD y diweddariad nesaf ar hyn, y dylid ei ledaenu'n ehangach fel y gall pobl o grwpiau gwleidyddol eraill lobïo yn ogystal â'r grŵp trawsbleidiol hwn.

Ymatebodd HD drwy ddweud bod ganddo gynlluniau i siarad â James Evans AS a Luke Fletcher AS, a dywedodd ei fod yn hapus i gwrdd ag unrhyw un arall i drafod yr adroddiad.

Dywedodd HD fod adeiladu a pheirianneg yn mynd law yn llaw. Ar y pwynt hwn, amlygodd MD mai cynnyrch o'r enw Bitco yw'r datrysiad diweddaraf ym maes toi ar gyfer paneli UV, a bod Trafnidiaeth Cymru bellach yn ei dreialu o ran cynnal a chadw.

Yna, dywedodd KP y bydd yn fwy effeithiol na'r llechi ffotofoltäig, ac y gellir eu gosod ar doeau fflat a phaneli fertigol. Dywedodd KP hefyd fod hyn yn datblygu yn gyflym, ac y bydd angen sesiynau hyfforddi byr o hanner diwrnod i'w ddeall.

Dywedodd KP fod angen gwneud mwy o asesu ar y safle yn hytrach nag yn y coleg gan y byddai'r disgybl yn treulio diwrnod ychwanegol yr wythnos ar y safle i gael mwy o weithlu.

Bu'n rhaid i HD adael y cyfarfod yn gynnar i baratoi ar gyfer cyfarfod arall.

Diolchodd JW i HD am fod yn bresennol, a gwahoddodd HD yn ôl i gyfarfod arall, pe bai'n awyddus i wneud hynny.

Yna siaradodd JW am y sefyllfa ar ddiwedd cyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol, gan ddweud na fydd y mater yn cael ei ollwng nes bydd canlyniad boddhaol.

Dywedodd JW y byddai'n trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf, ac efallai'n cael rhywun o'r sector celfyddydau i ymuno.

Dywedodd GE y gallai fod werth ymchwilio i ysbyty Felindre gan fod rhai cysyniadau gwahanol o ran dylunio a dulliau adeiladu yn cael eu defnyddio yno, gan gynnwys dulliau bioffilig.

Soniodd GE y gallai roi MK mewn cysylltiad â'r bobl iawn i drafod hyn ymhellach, os byddai angen.

Dywedodd JW pan fydd pobl yn meddwl am adeiladu nad ydynt yn meddwl am blymio, plastro, gosod brics a gwaith coed. Mynegodd JW ddiddordeb hefyd yn y paneli toi newydd.

Diolchodd JW i'r grŵp am fod yn bresennol, a gofynnodd a oedd unrhyw faterion eraill i’w trafod - nid oedd unrhyw faterion eraill.

Daeth JW â'r cyfarfod i ben.